Cafodd bywydau dros 450 o gleifion ei byrhau, mewn ysbyty yn Hampshire, oherwydd tuedd meddygon i ddarparu gormod o feddyginiaeth gref.

Dyna yw casgliad adroddiad gan Banel Annibynnol Gosport, i farwolaethau yn Gosport War Memorial Hospital, rhwng 1988 a 2000.

Roedd Heddlu Hampshire, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Y Cyngor Meddygol Cyffredinol, a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth; oll wedi methu ac amddiffyn cleifion yn ddigonol, meddai’r panel.

Ac mae’n “debygol” bod 200 yn rhagor o gleifion wedi cael eu heffeithio – roedd llawer o gofnodion ar goll, felly does dim modd cadarnhau hynny.

“Roedd yna ddifaterwch tuag at fywyd dynol, ac roedd yna ddiwylliant o fyrhau bywydau nifer fawr o gleifion,” meddai’r adroddiad.

Ymchwilio pellach?

Dyw’r ymchwiliad ddim wedi dod i’r casgliad bod angen dal unrhyw gyrff neu unigolion yn atebol – yn gyfreithiol, hynny yw – am y marwolaethau.

Ond, mae’r adroddiad yn galw ar yr awdurdodau perthnasol i “ystyried y camau sydd yn rhaid cymryd er mwyn ymchwilio ymhellach, i’r hyn a ddigwyddodd yn yr ysbyty”.

Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, yn annerch Aelodau Seneddol ynglŷn â’r casgliadau.

Mae ymgyrchwyr wedi galw am gamau cryf yn sgil cyhoeddiad yr adroddiad.