Bydd adroddiad hir-ddisgwyliedig am gyfres o farwolaethau amheus mewn ysbyty, yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

Mae disgwyl i’r adroddiad daflu goleuni ar farwolaethau cleifion yn Gosport War Memorial Hospital, Hampshire, rhwng 1988 a 2000; ac i ateb cwestiynau am yr ymchwiliadau iddyn nhw.

Panel Annibynnol Gosport sydd yn gyfrifol am y gwaith – cafodd ei lansio yn 2014 – a chyn-esgob Lerpwl, y Gwir Barchedig James Jones, sydd wedi bod yn arwain y panel yma.

Adroddiad arall

Mae adolygiad arall eisoes wedi dod i’r casgliad bod “defnydd lled gyson o feddyginiaeth gref” wedi “byrhau bywydau rhai” cleifion.

Doedd dim modd cyhoeddi casgliadau’r adroddiad yma tan 2013 – degawd wedi iddo gael ei gwblhau – oherwydd roedd ymchwiliad heddlu a chwestau yn cael eu cynnal.