Bydd Theresa May yn wynebu brwydr arall yn y senedd heddiw wrth i Aelodau Seneddol bleidleisio ar welliant i’r mesur ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r gwelliant a gafodd ei basio gan Dŷ’r Arglwyddi yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Llywodraeth roi cyfle i Aelodau Seneddol benderfynu beth i’w wneud os na fydd y cytundeb rhwng y Llywodraeth a’r Undeb Ewropeaidd yn ddigon da yn eu golwg. Mae’r Llywodraeth, fodd bynnag, yn benderfynol o wrthod ildio’r hawl hon i’r Senedd.

Llwyddodd y Prif Weinidog i osgoi gwrthryfel ar feinciau’r Torïaid yr wythnos ddiwethaf, ond dim ond ar ôl addo cyfaddawd iddyn nhw.

Yn fuan wedyn, roedd y darpar wrthryfelwyr yn cyhuddo’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth o dorri eu gair.

Mae’n ymddangos y bydd trafodaethau’n parhau drwy’r dydd rhwng y Llywodraeth ac Aelodau Seneddol Torïaidd sy’n gwrthwynebu Brexit.

Datganiad

Mae’r cyn-weinidog Torïaidd Anna Soubry eisoes wedi cyhoeddi datganiad yn esbonio pam y bydd yn gwrthryfela yn erbyn y Llywodraeth.

“Brexit yw’r set bwysicaf o benderfyniadau i’n gwlad eu cymryd mewn degawdau,” meddai.

“Beth bynnag a ddywedwyd wrthon ni yn y Refferendwm, allwch chi ddim dad-wneud 43 mlynedd o aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd mewn blwyddyn neu ddwy, ac mae cael cytundeb masnach newydd ymhell o fod yn fater ‘syml’ fel y cawsom ein sicrhau.”