Y Canghellor - strategaeth y sector preifat ddim yn creu digon o swyddi ar hyn o bryd
Mae diweithdra wedi codi o 80,000 o bobol ar draws gwledydd Prydain – y naid fwya’ ers dwy flynedd.

Bellach, yn ôl ffigurau swyddogol y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mae diweithdra wedi codi i 2.51 miliwn neu 7.9% o’r boblogaeth sydd mewn oedran gwaith.

Yr hyn sy’n newyddion gwaeth fyth i’r Llywodraeth yn Llundain yw bod swyddi newydd yn y sector preifat yn llawer is na’r nifer sy’n cael eu colli yn y sector cyhoeddus.

Mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud yn gyson y bydd busnesau preifat yn gwneud iawn am y swyddi sy’n cael eu colli oherwydd toriadau emwn gwario cyhoeddus.

Ond …

  • Roedd 111,000 o swyddi wedi eu colli yn y sector cyhoeddus yn y tri mis hyd at ddiwedd Mehefin.
  • Ond dim ond 41,000 o swyddi newydd oedd wedi eu creu yn y sector preifat yn yr un cyfnod.

Mae diweithdra’n cynyddu fwya’ ymhlith pobol ifanc – o’r 80,000, roedd 77,000 rhwng 18 a 24 oed.

‘Gobeithon cyn ised ag erioed’

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur – y TUC – mae’r gobeithion am swyddi cyn ised ag ar unrhyw adeg ers dechrau’r dirwasgiad.

Yn ôl Brendan Barber, roedd y ffigurau’n dangos nad oedd y sector preifat yn cynyddu digon i lyncu’r swyddi sy’n cael eu colli yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Ynghynt heddiw, roedd corff ymchwil yr IPPR wedi awgrymu bod swyddi yn y sector cyhoeddus yn cuddio gwendidau’r sector preifat ers blynyddoedd.

Ond mae’r Gweinidog Cyflogaeth Ceidwadol, Chris Grayling, wedi pwysleisio bod diweithdra’n parhau’n is nag yr oedd chwech mis yn ôl.