“Mae’r frwydr yn erbyn canabis drosodd” – dyna yw rhybudd un o gyn-arweinwyr y Ceidwadwyr i’r Prif Weinidog, wrth i nifer cynyddol o’r blaid alw am newid i’r drefn.

“Rhaid i bawb sy’n eistedd yn ystafelloedd cynadledda Whitehall gydnabod bod canabis ym mhobman,” meddai’r Arglwydd William Hague, mewn erthygl i’r Telegraph.

“Ac mae gorchymyn yr heddlu i stopio pobol rhag ei ddefnyddio, yr un mor hen ffasiwn â gofyn i’r fyddin ailsefydlu’r ymerodraeth.”

Daw ei sylwadau wedi i’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, alw am “newid trywydd”; ac wedi i’r Ceidwadwr, Tory Crispin Blunt, alw ar y Swyddfa Gartref i “gamu o’r neilltu” tros y mater.

Mae’r sylwadau yma oll wedi’u hysgogi’n rhannol gan achos Billy Caldwell, llanc 12 blwydd oed a fu’n ddifrifol sâl wedi i’w ganabis meddygol – o Ganada – gael ei gymryd oddi wrtho.

Amcanion y Llywodraeth

Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, wedi awgrymu na fyddai Llywodraeth San Steffan ond yn adolygu’r drefn ar lefel arwynebol – yn hytrach nag ystyried newid cyfraith.

Ac mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud nad oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i adolygu dosbarthiad y cyffur – cyffur ‘dosbarth B’ yw canabis ar hyn o bryd.