Mae’r Llywodraeth yn wynebu brwydr arall yn y Senedd ar ôl i’r Arglwyddi gefnogi cynnig i roi “pleidlais ystyrlon” i Aelodau Seneddol ar gytundeb terfynol Brexit.

Pleidleisiodd yr arglwyddi gyda mwyafrif o 119 neithiwr dros welliant gan yr Is-iarll Hailsham a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth adael i ASau bleidleisio ar sut i symud ymlaen os na bydd cytundeb Brexit erbyn 21 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Roedd y bleidlais yn dilyn ffrae rhwng y Llywodraeth a’r cyn-dwrnai cyffredinol Dominic Grieve yr wythnos ddiwethaf, a oedd wedi tynnu gwelliant tebyg yn ôl wedi addewid am gyfaddawd gan y Llywodraeth. Yn fuan wedyn, roedd ef a Cheidwadwyr gwrth-Brexit eraill yn cyhuddo’r Llywodraeth o dorri eu gair.

Bydd ASau yn pleidleisio ar y mesur ddydd Mercher.