Mae’r anallu i stopio chwarae gemau cyfrifiadurol, bellach yn cael ei ystyried yn gyflwr iechyd meddwl gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

‘Anhwylder Chwarae Gemau’ neu ‘gaming disorder’ yw’r term sydd wedi’i fathu am y cyflwr, ac yn ôl y WHO mae’r broblem i’w weld mewn “sawl rhan o’r byd”.

Mae rhai wedi beirniadu’r penderfyniad gan honni y bydd yn codi braw diangen ar rieni.

Ond mae eraill wedi ei groesawu, ac yn dadlau bod angen cynorthwyo pobol sy’n mynd yn gaeth i gemau cyfrifiadurol.

“Mewn trallod”

“Rydym yn dod ar draws rhieni sydd mewn trallod, wedi i’w plant gefnu ar yr ysgol [oherwydd gemau cyfrifiadurol],” meddai Dr Henrietta Bowden-Jones o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

“Maen nhw’n gweld strwythur cyfan eu teuluoedd yn chwalu’n ddarnau.”

Yn llefarydd ar ran y coleg tros ‘ymddygiadau caeth’, mae Dr Henrietta Bowden-Jones yn dweud mai therapïau seicolegol yw’r ateb – er dyw hi ddim yn diystyru meddyginiaeth.