Fe allai dros 1,500 o swyddi gael eu colli ar ôl i’r cwmni bancio Virgin Money gael ei brynu gan CYBG am £1.7bn.

O dan y cytundeb newydd, mi fydd holl gwsmeriaid CYBG, y grŵp bancio sy’n berchen Clydesdale Bank a Yorkshire Bank, yn symud i Virgin Money dros y tair blynedd nesa’.

Mae hyn yn golygu mai Virgin Money bellach fydd y chweched banc mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gyda thua chwe miliwn o gwsmeriaid.

Mae’r cytundeb hefyd yn golygu y bydd cyfranddalwyr Virgin Money yn derbyn  cyfrannau gan CYBG.

Colli swyddi

Mae penaethiaid y ddau gwmni wedi rhybuddio y gall yr uno newydd arwain at golli 1,500 o swyddi.

Mi fydd y rhan fwya’ o’r toriadau yn effeithio swyddi rheoli’r cwmni, medden nhw.

Mae hynny gan na fydd yr uno yn effeithio rhyw lawer ar wasanaethau cwsmeriaid.

Bwriad y grŵp newydd yw symud ei bencadlys i Glasgow, ac mi fydd Prif Weithredwr CYBG, Jim Pettigrew, yn aros yn ei swydd.