Mae tri dyn wedi marw ar ôl cael eu taro gan drên yn ne Llundain y bore ma.
Cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu galw i orsaf Cyffordd Loughborough ger Brixton tua 7.30yb ddydd Llun (18 Mehefin).
Mae eu marwolaethau ar hyn o bryd yn cael eu disgrifio fel rhai “anesboniadwy”.
Mae’r heddlu’n parhau ar y safle ac yn ceisio adnabod y tri gafodd eu lladd.
Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod pam eu bod nhw ar y cledrau. Mae lle i gredu eu bod yn artistiaid graffiti gan fod caniau o baent wedi cael eu darganfod gerllaw.