Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff bachgen 5 oed a’i fam gael eu darganfod yn Beachy Head.
Cafwyd hyd i’r ddau gan Wylwyr y Glannau wrth ymyl creigiau ger Eastbourne, yn nwyrain Sussex am 7yb ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sussex bod y ddynes, 42 oed, a’i mab yn dod o Maidstone yng Nghaint.
Nid yw eu marwolaethau yn cael eu trin fel rhai amheus.