Cafodd cardiau debyd eu defnyddio’n amlach nag arian parod y llynedd, yn ôl cymdeithas fasnach.

Yn 2017, cafodd 13.1 biliwn o nwyddau eu gwerthu am arian parod, o gymharu â’r 13.2 biliwn a gafodd eu prynu â chardiau debyd.

Dyma’r tro cyntaf i gardiau credyd ddod i’r brig, a’r twf ym mhoblogrwydd ‘taliadau digyffwrdd’ – contactless payments– sy’n gyfrifol, yn ôl UK Payment Markets.

Cafodd 5.6 biliwn taliad eu cyflawni trwy’r dull hwn y llynedd ar gardiau debyd a chredyd.

Dulliau o dalu

“Mae’r dewis sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig, yn galluogi pobol i dalu yn y ffordd sydd yn eu siwtio nhw orau,” meddai Prif Weithredwr UK Finance, Stephen Jones.

“Fodd bynnag, r’yn ni’n bell o fod yn gymdeithas ‘di-arian parod’. Ac er bod y Deyrnas Unedig yn troi’n economi lle mae arian parod yn llai pwysig, mae’n parhau’n hoff ddull i lawer.”