Mae Theresa May dan bwysau i esbonio sut mae hi’n bwriadu rhoi £384m ychwanegol yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd wrth iddi gyflwyno araith am ariannu iechyd.

Mae honiad y Prif Weinidog y bydd “difidend Brexit” yn helpu i ariannu’r cynnydd o 3.4% mewn gwariant wedi cael ei wfftio, hyd yn oed gan rai Ceidwadwyr.

Ac mae Theresay May hyd yn hyn wedi gwrthod dweud a fydd trethi eraill, fel gohirio cynyddu’r trothwy treth incwm, yn helpu i ariannu’r £20bn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2024.

Yn ôl cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS), Paul Johnson, ni fydd arian ychwanegol yn dod yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd y bil o £39bn a fydd yn rhaid ei dalu i adael, ynghyd â ffactorau economaidd eraill.

Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi galw ar Theresa May i fanylu ynglŷn â sut mae hi’n bwriadu talu am y cynllun.

Fe fydd y Prif Weinidog yn defnyddio ei haraith yn Llundain heddiw i ddweud bod gan y Gwasanaeth Iechyd “le arbennig ym mywyd pobol gwledydd Prydain”.

Ond fe fydd yn ychwanegu bod yn rhaid sicrhau bod “bob ceiniog yn cael ei gwario’n briodol.

“Mae’n gorfod bod yn gynllun sy’n mynd i’r afael â gwastraff, lleihau biwrocratiaeth a chael gwared a’r gwahaniaethau annerbyniol, gyda’r holl arbedion yma yn cael eu hail-fuddsoddi mewn gofal i gleifion.”

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.2bn yn ychwanegol tuag at y Gwasanaeth Iechyd gan Lywodraeth Prydain.