Mae mam plentyn ag epilepsi wedi galw am gyfarfod ag Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Sajid Javid i drafod cyfreithloni canabis.
Cafodd Billy Caldwell, 12, ganiatâd ganddo ddydd Sadwrn i gael potel o olew canabis a gafodd ei thynnu oddi arno mewn maes awyr ar ôl i’w fam geisio eu cludo i mewn i wledydd Prydain o Ganada.
Dywedodd Charlotte Caldwell o Ogledd Iwerddon eu bod nhw wedi “cyflawni’r amhosib” a bod arwyddion bod ei mab yn gwella ar ôl defnyddio’r olew.
Yn ôl trwydded frys, gall ei mab dderbyn triniaeth am hyd at 20 diwrnod, ond mae ansicrwydd y tu hwnt i hynny.
Unwaith y bydd e wedi gwella digon, fe fydd yn gweld niwrolegwyr a fydd yn gallu gwneud cais i ymestyn y drwydded.
‘Erchyll’ a ‘chreulon’
Yn ôl Charlotte Caldwell, mae’r profiad wedi bod yn “erchyll” a “chreulon” i’w mab, ac mae hi wedi galw ar Sajid Javi i sicrhau bod gwerth chwe mis o olew ar gael iddo.
Dywedodd wrth raglen BBC Breakfast: “Mae’r profiad hwn yr ydw i a fy mab wedi’i oddef dros yr wythnos ddiwethaf… dw i ddim eisiau, a wna i ddim sefyll yn ôl a gadael i unrhyw deulu arall yn ein gwlad ni ei oddef.
“Mae’n hollol erchyll, mae’n greulon.”
Yn ôl Sajid Javid, mae e wedi defnyddio pwerau arbennig i roi trwydded frys i Billy gael derbyn olew canabis ac yn ôl ei fam, roedd e’n iach am 300 niwrnod tra ei fod yn defnyddio’r olew.
Ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r teulu mae’r cyn-weinidog cyffuriau, Norman Baker, sy’n galw am newid y gyfraith.