Mae arweinydd Sinn Fein yn rhybuddio na ddylai unrhyw gyfaddawdu ddigwydd  yn nhrafodaethau Brexit hyd nes bydd gan Brydain ateb i gwestiwn y ffin ag Iwerddon.

“Hwn yw’r prawf na all ein Llywodraeth ei osgoi,” meddai Mary Lou McDonald yng nghynhadledd ei phlaid yn Belfast.

“Os na all penseiri Brexit gytuno ar beth ddylai Brexit fod, eu problem nhw oedd hynny.

“Nid ein problem ni fydd hyn.”

Mae Sinn Fein yn pwyso ar i Ogledd Iwerddon aros yn rhan o Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd, ac yn tynuu sylw at y ffaith fod y mwyafrif yno o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm.

Rhaid i gytundeb ar y ffin ddigwydd erbyn yr hydref i gadw at amserlen Brexit llywodraeth Prydain. Os na ddigwydd hyn, byddai trefniant wrth gefn yn digwydd, lle byddai Gogledd Iwerddon yn aros yn yr Undeb Tollau.

Hon yw’r gynhadledd Sinn Fein gyntaf i Mary Lou McDonald ei hannerch fel arweinydd.