Mae’r Swyddfa Gartref wedi ildio i bwysau teulu bachgen 12 oed a oedd yn rhybuddio bod ei fywyd am ddibynnu ar olew’r cyffur gwaharddedig canabis i’w drin.

Bill Caldwell o Swydd Tyrone yng Ngogledd Iwerddon, sy’n dioddef o gyflwr epilepsi difrifol, oedd y cyntaf yng ngwledydd Prydain i dderbyn canabis ar bresgripsiwn meddygol.

Ar ôl i swyddogion y Swyddfa Gartref wahardd y meddyg rhag parhau i gyflenwi’r cyffur, fe wnaeth mam Bill, Charlotte Caldwell, gyhuddo’r Gweinidog Heddlu, Nick Hurd, o “arwyddo gwarant marwolaeth” ei mab.

Teithiodd i Canada i nôl cyflenwad chwe mis o’r cyffur, ond cafodd y cyffur ei atafaelu gan yr awdurdodau pan ddychwelodd i faes awyr Heathrow.

Trwydded

Ar ôl wythnos o fod o dan bwysau, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid y bore yma ei fod wedi defnyddio ei bwerau i gyhoeddi trwydded ar frys i drin Billy ag olew canabis.

“Mae hon yn sefyllfa gymhleth iawn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod Billy yn derbyn y driniaeth fwyaf effeithiol bosib mewn ffordd ddiogel,” meddai.

“Rydym wedi cadw cysylltiad agos â thîm meddygol Billy dros nos, ac mae fy mhenderfyniad yn seiliedig ar farn uwch glinigyddion sydd wedi’i gwneud yn glir fod hwn yn argyfwng meddygol.”

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu fod y canabis a gafodd ei atafaelu ar ei ffordd i ysbyty Chelsea a Westminster Llundain lle mae Billy yn cael ei drin.

Arferai ddioddef hyd at 100 o drawiadau mewn diwrnod, ond dywed ei fam iddo gael 300 o ddyddiau heb drawiad pan oedd yn cael ei drin ag olew’r cyffur.