Am yr ail waith mewn pedair blynedd, mae tân wedi difrodi adeilad hanesyddol yn Glasgow, gan ddifetha gwaith gwerth miliynau o bunnau o waith adfer.

Lledaenodd y tân yn gyflym drwy Adeilad Mackintosh yn Ysgol Gelf Glasgow neithiwr, ac fe fu dros 150 o ddiffoddwyr tân wrthi drwy’r nos yn ceisio atal y tân rhag lledaenu.

Er gwaethaf ffyrnigrwydd y tân, nid oes adroddiadau o unrhyw anafiadau, ond dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân yr Alban fod y difrod yn golled drychinebus i Glasgow a’i phobl.

Ar ôl y tân yn 2014, dechreuodd prosiect adfer, ar gost o rhwng £20 miliwn a £35 miliwn gyda chefnogaeth Brad Pitt a Peter Capaldi ymysg eraill, i ddychwelyd yr ysgol gelf i’w hen ogoniant.

Mae’n ymddangos ar hyn o bryd fod yr holl waith hwnnw wedi ei ddinistrio’n llwyr.