Bydd y math “chwerthinllyd” o Brexit y mae Theresa May yn ei geisio yn waeth nag aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Nigel Farage.

Mae cyn-arweinydd Ukip yn galw ar y Torïaid i gael gwared arni fel Prif Weinidog a chael rhywun sy’n credu o ddifrif yn Brexit yn ei lle.

Dywedodd fod cyfnod pontio o 21 mis ar ôl dyddiad swyddogol Brexit ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf yn dangos nad oes gan Brydain syniad o beth mae arni ei eisiau.

“Os bydd Theresa May yn dal mewn grym, bydd y pontio yn parhau am 10 mlynedd,” meddai.

“Mewn gwirionedd, fe fyddwn ni mewn sefyllfa waeth nag oedden ni cyn pleidleisio i adael. Mae’n chwerthinllyd.

“Sioc i mi oedd darganfod nad oedd y Llywodraeth ddim wedi gwneud unrhyw gynlluniau ar gyfer gweithredu Brexit a does dim arweiniad o unrhyw fath wedi bod ers y refferendwm yn 2016.

“Y broblem sylfaenol yw bod gennym Brif Weinidog – sydd dw i’n meddwl y prif weinidog gwanaf a lleiaf diffuant i mi ei weld yn fy oes – sy’n gwneud job nad yw mewn gwirionedd yn credu ynddi.”