Mae adroddiad swyddogol wedi rhoi asesiad damniol o gynllun budd-daliadau’r Llywodraeth Prydain.

Yn ôl y Swyddfa Archwilio, nid yw Credyd Cynhwysol wedi rhoi gwerth am arian, mae cyflwyno’r budd-dal wedi bod yn arafach na’r disgwyl ac mae wedi achosi caledi i nifer fawr o bobl.

Fe gostiodd Credyd Cynhwysol fwy o arian i’w gyflwyno na’r chwe budd-dal blaenorol oedd yn cael eu disodli, meddai’r Swyddfa Archwilio.

Ac fe ychwanegodd y corff sy’n goruchwylio gwariant bod ansicrwydd a fyddai Credyd Cynhwysol yn rhoi gwerth am arian.

Ers i CC gael ei gyflwyno mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobol sy’n hwyr yn talu eu rhent a’r defnydd o fanciau bwyd, yn ôl y Swyddfa Archwilio.

Mae’r rhai sydd wedi beirniadu’r budd-dal yn dweud bod yr adroddiad yn gwrthddweud yr hyn mae’r Adran Waith a Phensiynau (DWP) wedi’i ddweud, sef bod popeth yn mynd yn dda.

Dywedodd llefarydd ar ran DWP bod y Swyddfa Archwilio yn cydnabod bod “gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud i’r Credyd Cynhwysol.”