Mae dwy Aelod Seneddol o Gymru wedi gadael mainc flaen Llafur neithiwr, a hynny er mwyn pledleisio o blaid aros ym marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.

Mi gyhoeddodd yr aelod dros Gŵyr, Tonia Antoniazzi, a’r aelod dros Ogledd Caerdydd, Anna McMorrin gyhoeddi ddoe ei bod nhw wedi gadael cabinet yr wrthblaid er mwyn yn erbyn yr arweinyddiaeth mewn pleidlais ar y farchnad sengl.

Roedd Jeremy Corbyn wedi annog Aelodau Seneddol ei blaid i atal eu pleidlais, ond fe wnaeth 75 bleidleisio o blaid aros yn Ardal Economaidd Ewrop (EEA) a 15 yn erbyn.

Fe gafodd y cynnig, a gyflwynwyd gan Tŷ’r Arglwyddi ar y Mesur ei Ymadael, ei drechu yn Nhy’r Cyffredin o 327 pleidlais i 126.

Brwydro yn erbyn Brexit

Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad, fe ddywedodd Tonia Antoniazzi bod angen cadw “perthynas glos” gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mae hyn, meddai, yn enwedig yng ngoleuni’r hyn sydd wedi digwydd yn ei hetholaeth yn ddiweddar, gan gynnwys dim morlyn na thrydaneiddio’r rheilffyrdd i Abertawe, ynghyd ag 800 o swyddi’n cael eu colli yn Virgin Media.

“Mi ddywedais yn glir yn ystod yr etholiad yn 2017 y byddaf yn parchu dymuniad y bobol hynny sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dw i ddim am gefnogi Brexit ar unrhyw gost,” meddai.

Dywedodd Anna McMorrin wedyn bod yn rhan fwyaf o’i hetholwyr hi wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a’i bod hi wedi “addo” rhoi eu hanghenion nhw yn gyntaf.