Bydd Tŵr Grenfell yn cael ei oleuo’n wyrdd heddiw (dydd Iau, Mehefin 14), er cof am y 72 o bobol a fu farw mewn tân yno flwyddyn yn union yn ôl.

Hefyd, bydd tua dwsin o fflatiau tŵr eraill yng ngorllewin Llundain yn troi’n wyrdd, ac mi fydd Downing Street yn cael ei goleuo.

Bydd yr adeiladau yn dechrau cael eu goleuo fore heddiw, ac yn cael eu goleuo am bum noson yn olynol.

Yn ogystal, mi fydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i nodi’r flwyddyn ers y trychineb, yn cynnwys gwasanaeth eglwysig, dadorchuddio mosaig a gorymdaith dawel.

“Cariad a chefnogaeth”

“Rydyn neisiau i bobol gadw Grenfell yn eu meddyliau,” meddai Yvette Williams o grŵp ymgyrchu, Justice 4 Grenfell. 

“Cariad a chefnogaeth sydd wrth wraidd digwyddiadau heddiw. A chadw dynoliaeth i fynd.

“Mi allwn ail-afael yn y frwydr ddydd Gwener a dydd Sadwrn…”