“Gwarth llwyr” – Dyna yw disgrifiad, Ian Blackford, arweinydd yr SNP o’r hyn a ddigwyddodd yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn ddydd Mercher (Mehefin 13).

Cafodd yr Aelod Seneddol ei wahardd o’r siambr am weddill y diwrnod, pan wrthododd â dychwelyd i’w sedd ar ôl mynnu bod yr Alban yn cael eu hanwybyddu ym mhroses Brexit.

Mi ymunodd gweddill Aelodau Seneddol yr SNP ag ef wrth adael y siambr.

Arhosodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru – plaid sydd hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o anwybyddu lleisiau’r llywodraethau datganoledig – yn eu seddi.

Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Ian Blackford o geisio tynnu sylw at ei hun, oherwydd mi roedd y Llefarydd, John Bercow, wedi cytuno gwrando ar ei gynnig ar ddiwedd y sesiwn.

“Sefyll fyny”

“Dyw hyn ddim yn dderbyniol, ac mi wrthododd pleidlais wnes i fynnu,” meddai Ian Blackford wrth y BBC. “Mae’n warth llwyr.”

“Sefyll fyny tros bwerau Senedd yr Alban yw fy swydd i, a swydd fy nghydweithwyr. Ac mi fydda i’n gwneud hynny.”

Daw hyn i gyd wedi i welliannau i’r Mesur Ymadael – deddfwriaeth Brexit sy’n ymwneud â materion sydd wedi’u datganoli – gael eu pasio neithiwr ar ôl 15 munud o ddadl.