Mae o leiaf un o bob pump o rywogaethau cynhenid mamaliaid Prydain mewn perygl o ddiflannu yn sgil afiechydon a cholli cynefinoedd, yn ôl astudiaeth newydd.

Ymysg y rhywogaethau sydd o dan fygythiad gwirioneddol mae’r wiwer goch, cathod gwyllt ac ystlumod llwyd clustiog.

Mae rhywogaethau eraill gan gynnwys draenogod, llygod y dŵr, pathew a hyd yn oed gwningod hefyd wedi lleihau dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r astudiaeth, y gyntaf o’i math ers 1995, yn seiliedig ar 1.5 miliwn o gofnodion o famaliaid ledled Prydain gan grwpiau bywyd gwyllt lleol.

Cafodd ei harwain gan Gymdeithas y Mamaliaid a’i chomisiynu gan yr asiantaeth llywodraeth, Natural England.

Mae’r adroddiad yn dangos fod rhai rhywogaethau wedi cynyddu ers yr arolwg diwethaf. Yn eu plith mae dyfrgwn, yn sgil gwahardd plaleiddiaid sy’n llygru afonydd, bela coed, ceirw a moch daear.