Mae astudiaeth sydd newydd ei chyhoeddi’n dangos bod pobol dros 50 oed sydd â phwysedd gwaed uchel yn wynebu risg uwch o ddioddef o dementia yn y pen draw.

Ac mae’r risg yn uwch eto, meddai’r astudiaeth, os nad yw’r bobol hynny’n dioddef o broblemau eraill yn ymwneud â’r galon.

O safbwynt pobol 50 oed sydd â phwysedd gwaed o 130mmHg – sydd rhwng y ddelfryd a’r hyn sy’n cael ei ystyried yn uchel – maen nhw 45% yn fwy tebygol o ddioddef o dementia.

Ar gyfartaledd, roedd y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth wedi dechrau dioddef o dementia yn 75 oed.

Mae’r astudiaeth wedi’i chyhoeddi yn yr European Heart Journal ac mi gafodd ei chynnal ymhlith 8,639 o weision sifil yn Whitehall ers 1985.

Mae’n dangos nad yw’r un canfyddiadau’n wir o ran pobol sy’n 60 neu’n 70 oed.

Archwilio’r cyswllt

Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth allu archwilio oedran datblygu dementia drwy edrych ar y cyswllt rhwng pwysedd gwaed uchel a’r salwch, yn ôl Dr Jessica Abell o Goleg Prifysgol Llundain.

Dywed y byddai’r canlyniadau’n gallu rhoi mwy o ystyr i’r term “canol oed” wrth ddweud bod pobol yn datblygu’r salwch yn ystod canol oed.

Un ateb posib i’r cwestiwn pam y mae’r risg yn uwch ymhlith pobol â phwysedd gwaed uchel, yn ôl arbenigwyr, yw’r niwed sy’n deillio o strôc fach.

Ond wrth annog pwyll wrth ddadansoddi’r canlyniadau, dywed Dr Jessica Abell fod y canlyniadau ar sail arsylwi yn unig. Mae hynny’n golygu, meddai, nad yw’r canlyniadau o reidrwydd yn wir am bob unigolyn.