Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi yn dweud mai un ymhob 50 o blant yn unig sydd â’r sgiliau i adnabod newyddion ffug.

Mae bron i hanner plant gwledydd Prydain yn gofidio nad oes ganddyn nhw’r sgiliau angenrheidiol, tra bod 60% o athrawon o’r farn fod newyddion ffug yn codi lefelau pryder plant.

Dyna farn y Grŵp Seneddol Aml-bleidiol sydd wedi cyhoeddi’r adroddiad.

Yn ôl cadeirydd y grŵp, Lucy Powell, mae “diffyg peryglus yn y sgiliau llythrennedd sydd eu hangen ar blant a phobol ifanc i symud yn y byd digidol ac adnabod newyddion ffug”.

Dywed yr adroddiad fod celwyddau’r cyfryngau’n arwain at ddiwylliant o “ofn ac ansicrwydd”.

Yr adroddiad

Penllanw naw mis o drafod ag athrawon, disgyblion ac academyddion yw’r adroddiad ‘Newyddion Ffug a Llythrennedd Critigol’.

Cafodd 388 o blant cynradd, 1,832 o ddisgyblion uwchradd a 414 o athrawon eu holi ar ffurf trafodaethau grŵp, ac fe luniodd arbenigwyr dystiolaeth ysgrifenedig ar ddiwedd y broses.

Tra bod 43% o blant hŷn yn cael mynediad i newyddion drwy wefannau a chyfryngau cymdeithasol, dywed yr adroddiad mai 26.2% yn unig sy’n barod i ymddiried mewn ffynonellau newyddion ar y we.

Ymateb

Ac yn ôl Lucy Powell, mae diffyg sgiliau’n arwain plant a phobol ifanc i gredu straeon newyddion ffug, sydd yn ei dro yn arwain at bryder a pherygl o gael eu hagor i agenda newyddion.

Dywedodd: “Mae’r tirlun digidol yn esblygu’n eithriadol o gyflym ond dydy’r sgiliau llythrennedd sydd eu hangen ar blant i gadw i fyny ddim yn cadw i fyny.”

Ychwanegodd cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol, Jonathan Douglas fod y byd digidol yn cynnig “cyfleoedd newydd cyffrous i bobol ifanc fod yn wneuthurwyr, yn guraduron ac yn gyfathrebwyr newyddion, ac nid dim ond yn gwsmeriaid”.

Ond mae’n rhybuddio fod diffyg ymdrech i sicrhau bod pobol ifanc yn ymddiddori mewn newyddion yn debygol o arwain at “niweidio dyfodol democrataidd pobol ifanc, yn ogystal â lles cenhedlaeth gyfan”.