Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn sicrhau cefnogaeth ei phlaid ei hun yn ystod y bleidlais ar y Mesur Ymadael yr wythnos hon.

Yn dilyn cyfarfod rhyngddi a’r Blaid Geidwadol neithiwr (nos Lun), fe ddaeth i’r amlwg bod rhai Aelodau Seneddol sydd o blaid ac yn erbyn Brexit wedi dod ynghyd i ffurfio cyfaddawd.

Roedd y cytundeb rhyngddyn nhw yn galw ar y Llywodraeth i geisio cytuno ar “drefniant” gyda’r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â’r Undeb Tollau.

Mae’r cyfaddawd hwn wedi cael ei greu gan yr Aelodau Seneddol sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, sef Sir Oliver Letwin a Nicky Morgan, ac maen nhw hefyd wedi ennill cefnogaeth Brexitwyr amlwg fel Jacob Rees-Mogg a Bill Cash.

Ond fe all y Llywodraeth wynebu colli o hyd, wrth i Dŷ’r Cyffredin bleidleisio ar y newidiadau eraill i’r mesur sydd wedi cael eu cynnig gan Dŷ’r Arglwyddi.

Galw am “undod”

Fe ddaeth y cyhoeddiad hwn yn fuan ar ôl i Theresa May gynnal cyfarfod â’r Pwyllgor 1922 neithiwr (dydd Llun, Mehefin 11), sy’n gyfrifol am Aelodau Seneddol meinciau cefn y Blaid Geidwadol.

Roedd wedi cynnal y cyfarfod er mwyn galw am “undod” o fewn y blaid ar drothwy’r bleidlais yr wythnos hon.

“Mae pwrpas yr Mesur Ymadael yn syml – y bwriad yw cyfreithloni deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau symudiad llyfn a threfnus wrth inni adael,” meddai Theresa May yn y cyfarfod.

“Ond mae’r neges rydyn ni’n ei hanfon i’r wlad trwy ein pleidleisiau’r wythnos hon yn bwysig. Mae’n rhaid inni fod yn glir ein bod ni’n unedig fel plaid yn ein hymdrech i ddarparu ar benderfyniad pobol gwledydd Prydain.”