Mae Poundworld yn mynd i gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ôl methu a dod o hyd i brynwr,  gan roi 5,100 o swyddi yn y fantol.

Mae’r cwmni wedi penodi’r gweinyddwyr Deloitte ar ôl i drafodaethau munud olaf gyda R Capital i geisio achub y siopau ddod i ben  heb gytundeb dros y penwythnos.

Mae gan Poundworld, sy’n berchen i TPG Capital, tua 350 o siopau.

Roedd colledion Poundworld wedi gwaethygu yn 2016-17 i £17.1 miliwn, yn dilyn colledion o £5.4 miliwn yn y flwyddyn flaenorol.

Daw methiant y cwmni ar ol i Toys R Us a Maplin gael eu rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr yn gynharach eleni a dyddiau’n unig ar ol i House of Fraser gyhoeddi cynlluniau i gau 31 o’i siopau a fydd yn effeithio tua 6,000 o swyddi.

Mae gan y cwmni nifer o siopau yng Nghymru gan gynnwys Bae Colwyn, Bangor, Wrecsam, Y Rhyl, Caerdydd, Abertawe, Llanelli, Merthyr Tudful, Llantrisant, Pontarddulais, a Chasnewydd.