Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi rhybuddio fod rhaid “stopio’r obsesiwn” am amseru ail refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad, a chanolbwyntio ar y dadleuon o blaid.

Daeth ei sylwadau wrth iddi siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, gan ddatgan fod Brexit yn golygu na ddylid rhuthro i wneud penderfyniad ynghylch pryd fydd refferendwm yn cael ei gynnal o’r newydd yn dilyn y siom yn 2014.

Dywedodd: “Gadewch i ni stopio’r obsesiwn drwy’r amser ynghylch pryd, o bosib, y cawn ni’r cyfle eto i bleidleisio ynghylch annibyniaeth.

“Yn hytrach, gadewch i ni ymgysylltu â phobol drwy ddadleuon sylweddol. Gadewch i ni drafod â phobol sy’n dal i ofyn y cwestiwn pam ddylai’r Alban gael bod yn annibynnol.”

Tro pedol?

Galwodd Nicola Sturgeon am ail refferendwm ar annibyniaeth yn syth ar ôl y bleidlais Brexit, ar ôl i ddau draean o Albanwyr bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’n ymddangos ei bod hi wedi gwneud tro pedol ar ôl yr etholiad cyffredinol, wrth i’r SNP golli 21 o seddau yn San Steffan.

Mae hi wedi rhybuddio fod y Mesur Ymadael fydd yn cael ei drafod yn San Steffan ddydd Mawrth yn “anghyfansoddiadol”, ac mae hi’n bwriadu gofyn i’r Llefarydd John Bercow am bleidlais ar ôl i Senedd yr Alban wrthod rhoi sêl bendith i’r ddeddfwriaeth.

Dywedodd ei bod hi am “ddiogelu” pwerau’r Alban, ac nad oedd hi’n ceisio sicrhau pwerau newydd, gan ychwanegu fod y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd yn tanseilio datganoli yng Nghymru a Gogledd Iwerddon hefyd.

Ail refferendwm ar annibyniaeth a Boris Johnson

Mewn cyfweliad arall ar raglen Ridge on Sunday ar Sky, dywedodd Nicola Sturgeon ei bod hi’n rhagweld y bydd ail refferendwm yn cael ei gynnal tra ei bod hi’n Brif Weinidog.

Yn ystod yr un sgwrs, penderfynodd hi ladd ar Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson, gan ddweud nad yw’n gymwys i fod mewn swydd bwysig.

“Dw i ddim yn credu y dylai Boris Johnson fod yn agos at swyddfa lywodraeth. Mae’n rhaid ei fod e’n un o’r bobol leiaf cymwys i fod mewn swydd bwysig yn y wladwriaeth y gwelson ni erioed.”