Mae adroddiadau bod daeargryn 3.9 ar raddfa Richter wedi cael ei deimlo yng ngogledd Lloegr.

Fe ddigwyddodd am 11.14 nos Sadwrn, yn ôl arbenigwyr, sy’n credu mai yn Grimsby yr oedd y canolbwynt.

Cafodd ei deimlo yng ngogledd-ddwyrain Swydd Lincoln ac yn ardal Hull yn Swydd Efrog.

Ond yng Nghymru o hyd y cafwyd y daeargryn mwyaf eleni, gyda chryniadau 4.6 ar raddfa Richter wedi’u teimlo ar Chwefror 17. Canolbwynt hwnnw oedd Cwmllynfell yng Nghwm Tawe.