Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o ddynladdiad dynes 100 oed yn dilyn lladrad.

Torrodd Zofija Kaczan ei gwddf a’i gên yn y digwyddiad yn ardal Derby ar Fai 28.

Mae Arthur Waszkiewicz, 39, wedi’i gyhuddo o ddynladdiad ac o ladrata ond wnaeth e ddim cyflwyno ple yn Llys Ynadon De Swydd Derby.

Roedd Zofija Kaczan wedi treulio cyfnod yng ngwersyll y Natsïaid yng Ngwlad Pwyl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn y lladrad, cafodd ei churo ac fe gafodd ei bag ei ddwyn oddi arni am 8.45 y bore. Mae lle i gredu ei bod hi ar ei ffordd i’r egwlys ar y pryd.

Cafwyd hyd i’r bag yn ddiweddarach.

Cafodd Arthur Waszkiewicz o orllewin Llundain ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Derby ar Orffennaf 6.