Darliwthwyr yng Nghaerdydd yn streicio (o wefan undeb yr UCU)
Mae disgwyl y bydd rhagor o undebau’n cyhoeddi heddiw eu bod am gynnal pleidleisiau ar weithredu diwydiannol.

Fe fydd cynhadledd cyngres yr undebau, y TUC, yn trafod newidiadau i bensiynau gweithwyr cyhoeddus, gyda nifer o’r undebau mwya’ eisoes yn sôn am streicio ar y cyd.

Mae diwrnod gweithredu eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer diwedd Tachwedd a’r disgwyl yw y bydd rhagor o undebau’n cyhoeddi eu cefnogaeth.

Fe allai olygu fod mwy na miliwn o bobol yn streicio am ddiwrnod – y gweithredu diwydiannol mwya’ ers blynyddoedd.

Heclo

Ddoe, fe gafodd yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, ei heclo gan y cynadleddwyr ar ôl beirniadu streiciau undydd yn gynharach eleni.

Undeb athrawon Cymru, UCAC, yw’r diweddara’ i gyhoeddi fod aelodau wedi pleidleisio o blaid streic undydd.

Prif achos y gweithredu yw newidiadau arfaethedig i bensiynau yn y sector cyhoeddus, gyda disgwyl i weithwyr dalu cyfraniadau mwy.

Mae’r undebau mawr sy’n rhan o’r trafodaethau yn debyg o ddweud heddiw nad oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i drafod o ddifri’.

Brwydr wleidyddol

Ond roedd araith Ed Miliband ddoe’n arwydd o’r frwydr sy’n digwydd i ennill cefnogaeth y cyhoedd, gyda’r Llywodraeth yn cyhuddo’r undebau o greu anhwylustod.

“Dydyn ni ddim eisiau streiciau ac fe fydd y cyhoedd yn cael llond bol os oes streiciau eang yn cau ysgolion a swyddfeydd, gwasanaethau iechyd a thrafnidiaeth,” meddai’r gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude.