Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o dwyll mewn cysylltiad â’r tân yn Nhŵr Grenfell y llynedd.

Y tri yw Abolaji Onafuye, 54 oed, o oorllewin Kensington; Koffi Kouakou, 54 oed, o dde orllewin Llundain; ac Abdelkarim Rekaya, 28 oed, o Chelsea.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron llys heddiw (dydd Gwener, Mehefin 8) ar gyhuddiad o dwyllo trwy gynrychiolaeth ffug.

Mi fydd pedwerydd dyn, sef Yontan Eyob, 25 oed, yn ymddangos gerbron llys hefyd ar gyhuddiad o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant a’r bwriad o ddosbarthu; ynghyd â chyhuddiadau eraill.

Mae pum person arall – pedwar dyn ac un ddynes – a gafodd eu harestio ddoe fel rhan o ymchwiliad yr heddlu, erbyn hyn wedi’u rhyddhau.