Mae “switsh saith mlynedd” y tu fewn i bobol sy’n byw â chlefyd y siwgwr Math 1, cyn bod lefelau’r hormon insiwlin yn sefydlogi.

Dyna ganfyddiad ymchwil newydd sy’n dangod dirywiad cyflym yn y weithgaredd o gynhyrchu inswlin – bron i 50% bob blwyddyn am saith mlynedd – cyn sefydlogi.

Dywed gwyddonwyr ym Mhrifysgol Exeter fod y canfyddiadau yn gam pwysig ymlaen o ran deall diabetes Math 1, ac yn groes i’r gred flaenorol bod yr inswlin a gynhyrchir gan bobol â’r cyflwr yn darfod gydag amser.

Mae hefyd yn cynnig y gobaith, trwy ddeall pa newidiadau ar ôl saith mlynedd, y gellid datblygu strategaethau newydd i gadw inswlin sy’n cipio beta-gelloedd mewn cleifion.

Mae diabetes Math 1 yn effeithio ar tua 400,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig.