Bydd Theresa May, yn cwrdd â gweinidogion yn ddiweddar, gan obeithio dod i gyfaddawd tros gynlluniau Brexit.

Gobaith y Prif Weinidog yw taro bargen gyda’r Undeb Ewropeaidd, byddai’n galluogi’r Deyrnas Unedig i aros yn rhan o’r Undeb Tollau am gyfnod.

Ond, mae’n debyg bod ei gweinidogion yn anghytuno â hi tros y mater, ac yn pryderu y gallai’r trefniant ‘dros dro’ yma, droi yn un parhaol.

Yn ogystal, mae adroddiadau’n awgrymu bod yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis – Brexiteer brwd –  yn ystyried ymddiswyddo tros y mater.

Colli pleidlais?

Bellach mae Theresa May yn brwydro ag aelodau phlaid ei hun tros sawl mater, ac mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y gallai golli pleidlais ar y Mesur Ymadael, ddydd Mawrth (Mehefin 12).

Mae’n debyg bod ambell Aelod Seneddol yn bwriadu gwrthryfela, gan bleidleisio o blaid newidiadau sydd wedi cael eu cynnig gan yr arglwyddi.