Mae 97 o ddiffoddwyr tân ar safle gwesty yn Knightsbridge yn Llundain.

Cafodd 15 o injanau eu hanfon i westy Mandarin Oriental, a’r mwg i’w weld ar draws y ddinas.

Roedd y gwasanaethau brys wedi derbyn mwy na 35 o alwadau ffôn yn dilyn y tân. Mae gan y gwesty ddeuddeg llawr.

Mae diffoddwyr o Chelsea, Kensington, Hammersmith, Battersea a nifer o lefydd eraill ar y safle, ynghyd â’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth wnaeth achosi’r tân.