Dim ond 10% o droseddau â chyllyll, a llai na 25% o droseddau treisgar, a gafodd eu datrys gan Heddlu Llundain y llynedd, yn ôl ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi.

Mae nifer yr achosion sydd wedi’u datrys yn llwyddiannus wedi bod yn gostwng fesul dipyn ers 2015. Mae hynny’n golygu’r achosion lle mae rhywun wedi cael ei gyhuddo, ei ddwyn i’r llys, ei rybuddio, ei ddirwyo neu ystyried achos wrth ddedfrydu.

Yn ôl aelod Ceidwadol o Bwyllgor Heddlu a Throsedd Cynulliad Llundain, Tony Arbour, hyn sydd yn gyfrifol am y cynnydd diweddar yn nifer y troseddau â chyllyll.

Ffigurau 2015

Yn ôl ffigurau Heddlu Llundain, roedd yr heddlu wedi dwyn achos mewn 32% o sefyllfaoedd yn ymwneud â chyllyll yn 2015.

Ond fe aeth y ffigwr i lawr i 27% yn 2016 ac i 23% yn 2017.

O safbwynt lladrad â chyllyll, roedd yr heddlu wedi dwyn achos mewn 20% o sefyllfaoedd yn 2015, 14% yn 2016 ac 11% yn 2017.

Yn ôl yr heddlu, mae nifer o ffactorau’n gyfrifol am y gostyngiad ac maen nhw’n dweud eu bod yn wynebu “sefyllfa gymhleth” wrth fynd i’r afael â’r ffigurau, gan gynnwys toriadau yng nghyllideb yr heddlu.

Eleni

Hyd yn hyn yn 2018, mae Heddlu Llundain wedi cychwyn 72 o ymchwiliadau i lofruddiaethau, a naw ohonyn nhw’n ymwneud â dryll a 47 o achosion yn ymwneud â chyllyll

Roedd 134 o achosion o ladd yn destun ymchwiliad yn 2017.

Ond fe fu llai o lofruddiaethau ym misoedd Ebrill a Mai na’r misoedd blaenorol eleni.