Mae llefarydd ar ran Michael McIntyre wedi cadarnhau bod y digrifwr “yn iawn”, wedi i giang o ladron ar gefn sgwters ei dargeu yn Llundain ddydd Llun (Mehefin 4).

Roedd y comedïwr yn eistedd yn ei Range Rover, pan ddaeth dau ddyn ar gefn moped a tharo’r ffenest flaen gyda morthwyl. Fe lwyddon nhw i ddwyn oriawr Rolex gwerth £15,000 y comediwr, cyn gyrru i ffwrdd.

Yn ôl yr heddlu, does neb wedi cael eu hanafu a does neb wedi cael eu harestio chwaith.

Mae Michael McIntyre yn cyflwyno Michael McIntyre’s Big Show, ac yn aml yn perfformio ar lwyfan o flaen degau o filoedd o bobol.

Ef yw’r ffigwr adnabyddus diweddara’ i gael ei dargedu gan gangiau moped.

Cafodd ffôn Martin Lewis – sefydlydd MoneySavingExpert.com – ei ddwyn y llynedd, a bu’n rhaid i Daniel Radcliffe – actor Harry Potter – achub twrist o gang tebyg.