Mae Llywodraeth Prydain wedi gwerthu ei siâr 7.7% yn y Royal Bank of Scotland, a hynny ar golled o £2.1bn i’r trethdalwr.

Mae UK Government Investments (UKGI) wedi cadarnhau’r gwerthiant ar bris o 271c y siâr.

Fe fydd hyn yn dod â chyfran y trethdalwr yn y banc i lawr o 70.1% i tua 62.4%.

Ond, pan oedd y creisis ariannol ar ei anterth yn 2008, fe brynwyd y cyfranddaliadau am 502c yr un, er mwyn ceisio arbed banc yr RBS. Fe dalodd Llywodraeth Prydain £45bn i’r perwyl hwnnw.

“Dw i’n falch bod y Llywodraeth wedi penderfynu mai nawr ydi’r amser i ail-ddechrau gwerthu eu cyfranddaliadau,” meddai prif weithredwr RBS, Ross McEwan.

“Mae’n adeg pwysig i’r banc, ac yn gam pwysig wrth geisio dychwelyd y banc i berchnogaeth breifat.

“Mae o hefyd yn adlewyrchu’r cynnydd yr ydan ni wedi ei wneud wrth greu banc symlach a saffach, banc sy’n canolbwyntio ar ddelifro ar gyfer ei gwsmeriaid a’i gyfranddalwyr,” meddai wedyn.