James Murdoch (Esther Dyson)
Mae James Murdoch yn wynebu cael ei holi ymhellach gan Aelodau Seneddol sy’n ymchwilio i achosion o hacio ffonau gan y News  of the World.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Celfyddydau, Cyfryngau a Chwaraeon John Whittingdale bod Mr Murdoch yn cael ei alw’n ôl. Ond dywedodd bod y pwyllgor am gael tystiolaeth yn gyntaf gan dystion eraill gan gynnwys cyn-weithredwr News Corp Les Hinton, a Mark Lewis, y cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r rhai sydd wedi  dioddef o ganlyniad i hacio eu ffonau.

Dywedodd Mr Whittingdale wrth Sky News bod y pwyllgor yn dechrau dod i ddiwedd eu trafodaethau ond bod angen cadarnhau un neu ddau o bethau drwy alw rhai tystion yn ôl.

Ychwanegodd y byddai Mr Hinton yn cael ei holi am y cyfnod pan gafodd taliadau eu gwneud i ohebydd brenhinol y News of the World Clive Goodman a’r ymchwilydd preifat Glenn Mulcaire. Cafodd y ddau eu carcharu yn 2007 am glustfeinio ar negeseuon ffôn preifat.

Dywedodd Mr Whittingdale y byddan nhw’n holi Mr Murdoch ynglyn â anghysondebau rhwng tystiolaeth Mr Murdoch ym mis Gorffennaf a’r dystiolaeth a roddwyd i’r pwyllgor wythnos ddiwethaf gan gyn-olygydd y News of the World Colin Myler a chyn gyfreithiwr News International Tom Crone.

Dywedodd llefarydd ar ran News Corp bod James Murdoch yn fodlon ymddangos gerbron y pwyllgor i ateb unrhyw gwestiynau