Roedd yr ymosodiad yn Salisbury dri mis yn ôl wedi costio £7.5m i’r heddlu, yn ôl comisiynydd yr heddlu yn Swydd Wiltshire.

Cafodd cyn-ysbïwr o Rwsia, Sergei Skripal, 66 oed, a’i ferch, Yulia, eu gwenwyno gan nwy nerfol ar 4 Mawrth.

Ac yn ôl ffigyrau sydd wedi’u rhyddhau gan Angus Macpherson, Comisiynydd yr Heddlu Swydd Wiltshire, roedd 140 o swyddogion yr heddlu wedi bod yn rhan o’r ymchwiliad, gan gynnwys 40 o luoedd yr heddlu.

Roedd tua £250,000 wedi cael eu rhoi i fusnesau’r dre’ wedyn, gyda rhai ohonyn nhw wedi gweld cwymp o 80% yn eu helw yn yr wythnosau yn dilyn yr ymosodiad.

Fe ddatgelodd hefyd fod cost yr ymchwiliad hyd yn hyn, sef £7.5m, yn debygol o gynyddu yn ystod y misoedd nesa’, ac y bydd rhaid i’r “ymchwiliad cenedlaethol”, meddai, gael ei dalu “ar lefel genedlaethol”.

Y cefndir

Fe gafodd Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, eu darganfod yn anymwybodol ar fainc yn nhre’ Salisbury ar Fawrth 4, cyn cael eu cludo i Ysbyty Rhanbarthol Salisbury.

Mae’r ddau bellach wedi gadael yr ysbyty, a hynny ar ôl wythnosau o fod mewn cyflwr difrifol wael.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, mi gafodd nwy nerfol, novichok, ei ddefnyddio yn ystod yr ymosodiad, ac maen nhw’n rhoi’r bai ar Rwsia am gyflawni’r weithred.

Ond mae Rwsia, ar y llaw arall, wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn droeon.