O ddydd Llun ymlaen (Mehefin 4), bydd modd i bobol sy’n dysgu gyrru, yrru ar draffyrdd.

Yn y gorffennol, roedd yn rhaid pasio’r prawf gyrru cyn gwneud hynny, a nod y cam yma yw rhoi cyfle i ddysgwyr brofi’r traffyrdd.

Er gwaetha’r newid cyfraith, bydd yn rhaid i ddysgwyr yrru ceir penodol, a bod yng nghwmni hyfforddwyr gyrru proffesiynol.

“Meithrin sgiliau”

“Pan ddaw at farwolaethau pobol ifanc, gwrthdrawiadau yw un o’r prif achosion,” meddai gweinidog diogelwch ffyrdd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Jesse Norman.

“Bydd caniatáu dysgwyr i gael gwersi ar y traffyrdd, yn helpu gyrwyr ifanc i feithrin y sgiliau a’r profiad sydd ei angen i yrru’n ofalus ar draffyrdd.”