Mae disgwyl rhagor o gydweithio rhwng busnesau ac awdurdodau, er mwyn mynd i’r afael â bygythiad brawychiaeth.

Dan gynlluniau diweddaraf y Llywodraeth – a fydd yn cael eu cyhoeddi heddiw – bydd galw ar gwmnïau i gysylltu â’r heddlu, os ydy cwsmer yn prynu deunydd amheus ganddyn nhw.

Wrth gyhoeddi’r strategaeth newydd, bydd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, yn rhybuddio bod angen rhwystro brawychwyr rhag manteisio ar y drefn sydd ohoni.

“Er mwyn gwneud hynny,” bydd yn dweud yn ddiweddarach, “rhaid mynd ati’n gyflymach, i dynnu sylw’r awdurdodau at werthiant deunydd amheus.”

Strategaeth newydd

Yn ogystal ag annog busnesau i weithredu, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn cynnig llu o gynlluniau eraill i ddelio â brawychiaeth.

Ymhlith rhain, mae’r bwriad i annog MI5 – y gwasanaeth cudd-wybodaeth – i rannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol a lluoedd heddlu.