Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad i Islamoffobia honedig oddi fewn i’r blaid Geidwadol.

Mae’n dweud ei fod yn anghytuno gyda’r Farwnes Warsi, sydd wedi cefnogi galwad gan Gyngor Mwslimaidd Prydain (MCB) ar i’r Torïaid wneud yn siwr “nad oes lle i bobol hiliol oddi fewn y blaid”.

Mae’r MCB wedi ysgrifennu at gadeirydd y Blaid Geidwadol. Brandon Lewis, yn tynnu sylw at gadwyn o achosion sy’n ymwneud ag ymgeiswyr a chynyrchiolwyr eraill y blaid.

Ond, ar raglen The Andrew Marr Show ar BBC1 fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 3) mae Sajid Javid wedi ymosod ar yr MCB, gan ddweud nad yw’r Bwrdd yn cynrychioli Mwslimaid gwledydd Prydain go iawn.

“Dydi’r MCB ddim yn cynrychioli Mwslimaid yn y wlad hon,” meddai. “Ffeindiwch chi grwp o Fwslimiais sy’n credu bod yr MCB yn siarad ar eu rhan nhw.

“Dw i’n amheus iawn o unrhyw beth sydd gan yr MCB i’w ddweud,” meddai Sajid Javid wedyn.

“Dan y llywodraeth Lafur ddiwetha’, a than bolisi yr ydyn ninnau wedi parhau ag o, dydan ni ddim yn delio gyda’r MCB… oherwydd bod nifer o’u haelodau wedi gwneud sylwadau o blaid eithafwyr… a dydi hynny ddim yn dderbyniol.”