Mae bron i 600,000 o swyddi wedi’u colli yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn ystod y degawd diwethaf.

Mae astudiaeth newydd gan undeb llafur y GMB yn dweud fod hynny’n cynrychioli gostyngiad o 17% sydd hefyd yn golygu bod £2.3bn yn llai o gyflogau wedi’u talu dros y cyfnod.

Yn 2007, roedd gwledydd Prydain yn cynnal 3.5 miliwn o swyddi parhaol a thros-dro yn y diwydiant gweithgynhyrchu – ac roedd hynny’n cynrychioli 12% o’r holl swyddi.

Ond, erbyn 2016, roedd y cyfanswm swyddi wedi gostwng i 2.9 miliwn, neu 9.2% o’r holl swyddi.

Mae pob rhanbarth o wledydd Prydain wedi cael ei effeithio – y tair ardal sydd wedi eu taro waethaf yw Llundain, yr Alban, a Gogledd Orllewin Lloegr, sydd wedi gweld gostyngiad o 27%, 22% a 21% yn nifer swyddi’r sector, yn y drefn yna.