Mae miloedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio yn Belfast heddiw yn galw am wyrdroi’r gwaharddiad ar briodasau rhwng cyplau o’r un rhyw.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, dylai unrhyw gytundeb tros rannu grym yn Stormont gynnwys diwygio’r drefn sydd wedi atal y gyfraith rhag cael ei newid ers blynyddoedd lawer.

Mae’r ymgyrchwyr yn dweud na fyddan nhw’n cefnogi unrhyw gytundeb nad yw’n cynnwys newid yn y gyfraith.

Fe wnaeth hyd at 20,000 o bobol ymgynnull heddiw, gan gynnwys cyn-arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams.

Cytundeb blaenorol

Roedd y mwyafrif o Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon o blaid cyflwyno deddfwriaeth ar briodasau o’r un rhyw y tro diwethaf i’r mater gael sylw yn Stormont flwyddyn a hanner yn ôl.

Ond gyda’r ansicrwydd tros rym o fewn y sefydliad, fe gafodd y mater ei roi o’r neilltu.

Er mwyn newid y gyfraith, mae’n rhaid cael cefnogaeth y mwyafrif o unoliaethwyr a’r mwyafrif o genedlaetholwyr – fyddai mwyafrif o’r cyfan gyda’i gilydd ddim yn ddigon.

Mae’r DUP ymhlith y pleidiau sy’n defnyddio’r drefn bresennol yn gyson er mwyn atal cyflwyno polisïau dadleuol fel yr un hwn.

Llywodraeth Prydain i ddeddfu?

Yn sgil y sefyllfa yn Stormont, fe fu cryn bwysau ar Lywodraeth Prydain i ddeddfu ar y mater.

Mae un bil preifat eisoes wedi methu yn San Steffan yn ddiweddar ac roedd awdur y bil hwnnw, Conor McGinn yn Belfast heddiw.

Dywedodd fod neges yr ymgyrchwyr “yn gwbl glir heddiw”, sef eu bod yn “caru cydraddoldeb, yn sefyll gyda chyplau LGBT, yn mynnu’r un hawliau â phawb arall yn y DU ac ynys Iwerddon ac am gael priodasau cyfartal nawr”.