Mae cwmni Visa wedi ymddiheuro ar ôl i nam atal cwsmeriaid rhag defnyddio cerdyn banc yng ngwledydd Prydain a thrwy Ewrop am gyfnod ddydd Gwener.

Derbyniodd y cwmni nifer sylweddol o gwynion am broblem oedd yn atal caledwedd rhag gweithio.

Dywedon nhw mewn datganiad eu bod nhw wedi “methu” â chynnig eu gwasanaeth arferol i gwsmeriaid, a’u bod yn ymddiheuro am hynny.

Mae lle i gredu bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid bellach yn gallu defnyddio cerdyn, ac mae’r broblem wedi cael ei datrys yn llwyddiannus, meddai’r cwmni.

Yn ôl y cwmni, doedden nhw ddim yn destun ymosodiad seibr.

Ymateb

Yn ôl llefarydd ar ran cwmni Which?, mae angen i’r cwmni sicrhau nad yw’r un o’u cwsmeriaid ar eu colled.

Maen nhw wedi galw ar gwsmeriaid i gofnodi unrhyw wariant ychwanegol yn sgil y broblem.