Mae 77% o bobol ifanc gwledydd Prydain eisiau cael gwared ar y ffiniau sy’ rhwng y gwledydd, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl arolwg gan y cwmni bancio, Monese, mae 37% o bobol ifanc rhwng 24 a 35 oed yn dweud y byddai cael gwared ar ffiniau gwledydd yn gwella cyfleoedd gwaith.

Mae 36% wedyn yn dweud y bydd yn creu gweithlu sydd ag ymwybyddiaeth ddyfnach am ddiwylliannau eraill.

Yn ôl Monese, mae’r ffigyrau yn dangos newid yn agwedd y genhedlaeth iau, gan mai dim ond 41% o bobol rhwng 45 a 54 oed sy’n cytuno â chael gwared ar ffiniau, a 36% o bobol dros 55 oed.

Roedd yr ymchwil hefyd yn dangos bod:

  • 85% eisiau datblygu sgiliau a fydd yn eu galluogi i beidio â gweithio 9-5, gan weithio unrhyw le ar unrhyw adeg;
  • 81% eisiau teithio i Ogledd America i weithio;
  • 90% eisiau bod yn fosys ar lnyn nhw’u hunain.

“Gwir angen am ryddid”

 Yn ôl Norris Koppel, Prif Weithredwr Monese, mae’r arolwg yn dangos bod yna “wir angen am ryddid” ymhlith pobol ifanc gwledydd Prydain.

“Mae pobol ifanc eisiau teithio, gweld y byd a byw yn annibynnol o rwystrau daearyddol – gan ddatblygu, ar yr un pryd, yn bobol broffesiynol a chynnig eu harbenigedd i fusnesau ledled y byd,”  meddai.

Mae Monese, a gafodd ei sefydlu yn 2013, yn gwmni bancio sy’n galluogi cwsmeriaid i agor cyfrif heb nodi eu cyfeiriad na’u hanes ariannol.