Mae un o’r lleisiau amlycaf dros adael yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud cais swyddogol i fyw yn Ffrainc.

Cyn-Ganghellor y Trysorlys llywodraeth Margaret Thatcher, Nigel Lawson, oedd yn cadeirio’r ymgyrch dros Brexit yn y refferendwm ddwy flynedd yn ôl, ac mae wedi cael ei gyhuddo o fod yn rhagrithiwr.

Mewn cyfweliad gyda chylchgrawn yn Ffrainc, pwysleisiodd nad oedd yn ceisio am ddinasyddiaeth Ffrengig, ond ei fod yn disgwyl y bydd cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar fater y bobol o wledydd Prydain sy’n byw ar y cyfandir.

Ond doedd e ddim yn credu y bydd modd dod i gytundeb masnach yn syth ar ôl i Brexit ddigwydd, ac fe wnaeth e gydnabod y gall fod problemau gyda’r ffin yn Iwerddon.

Mae’r dyn 86 oed eisoes yn byw yn Ffrainc ond mae’n ceisio am carte de sejour, dogfen a fydd yn dangos bod ganddo hawl gyfreithiol i fyw yno, pe bai cymhlethdodau yn codi wedi Brexit.