Mae Heddlu Greater Manchester wedi arestio dyn, 37, ym maes awyr y ddinas, ar amheuaeth o lofruddio Paul Massey a John Kinsella.

Mae dynes 39 oed hefyd wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr mewn perthynas â’r drosedd.

Fe gafodd dyn 48 oed ei arestio yn nhref Salford ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio, a hynny mewn perthynas â’r ymchwiliad i lofruddiaeth Paul Massey.

Fe gafodd Paul Massey, 55, ei saethu’n farw yn ei gartref yn Clifton ar Orffennaf 26, 2015. Bu farw John Kinsella, 53, wedi iddo gael ei saethu wrth fynd â’i gi am dro  ger traffordd yr M62 ben bore dydd Sul, Mai 5 eleni.