Mae dyn wedi’i ddwyn i’r ddalfa am geisio dringo’r sgaffaldiau ar Dwr Elizabeth yn Westminster.

Mae heddlu Scotland Yard wedi cadarnhau fod y dyn wedi neidio dros ffens sydd wedi’i gosod ger y gatiau i Balas San Steffan, er mwyn mynd at y twr sy’n cynnwys cloc a chlychau Big Ben.

Fe gafodd y gwr ei arestio am hanner dydd heddiw (dydd Mercher, Mai 30). Dydi’r awdurdodau ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol, a doedd y dyn ddim yn cario arfau.

Roedd plismyn wedi’u galw toc wedi 11.30yb, yn dilyn adroddiadau am ddyn oedd yn ymddwyn yn amheus ger y gatiau sy’n cael eu hadnabod, Carriage Gates.

Pan ddaeth yr heddlu o hyd iddo, roedd wedi dringo’r ffens ac wedi dechrau dringo’r sgaffaldiau.