Mae Tommy Robinson, arweinydd yr EDL (English Defence League), wedi’i garcharu am 13 mis am dorri rheolau’r llys am yr ail waith.

Fe ymddangosodd gerbron Llys y Goron Leeds ddydd Gwener (Mai 25) dan ei enw iawn, Stephen Christopher Yaxley-Lennon.

Cafodd ei arestio y tu allan i’r llys ar ôl troi at wefannau cymdeithasol i gyhoeddi manylion am achos llys arall sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, lle mae gofyn i’r manylion aros yn gyfrinachol.

Dywedodd barnwr wrth Tommy Robinson ei fod e wedi rhoi’r achos hwnnw mewn perygl, ac y gallai gostio cannoedd o filoedd o bunnoedd i’w gynnal o’r newydd.

Gwyliodd y llys fideo o Tommy Robinson, 35, y tu allan i’r llys, lle’r oedd yn siarad â phobol sydd ynghlwm wrth yr achos arall. Cafodd y fideo ei wylio dros 250,000 o weithiau ar Facebook.

Cafodd ei garcharu am 10 mis am ddirmyg llys, a thri mis pellach am dorri amodau dedfryd ohiriedig flaenorol.

Cafodd ei ddedfrydu fis Mai y llynedd am geisio ffilmio pedwar dyn oedd wedi’u cael yn euog yn Llys y Goron Caergaint o dreisio merch yn ei harddegau.

Adrodd am ei garcharu

Doedd dim hawl gan y cyfryngau gyhoeddi ddydd Mawrth fod Tommy Robinson wedi cael ei garcharu, ond bod her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad hwnnw yn llwyddiannus. Yn ôl cyfreithwyr Tommy Robinson, mae’n difaru’r hyn a wnaeth.

Dywedodd y barnwr fod Tommy Robinson wedi bod yn annog pobol i rannu’r fideo ar y we, ac mai dyna arweiniodd at y cyhuddiad o ddirmyg llys.

Ond ychwanegodd nad yw’r weithred wedi tarfu’n ormodol ar yr achos arall.

Serch hynny, ychwanegodd fod rhaid i Tommy Robinson ddeall “canlyniadau ei weithred”.